Lleoliad:
Hybrid -
Ystafell Bwyllgora 2, Senedd a fideogynadledda drwy
Zoom
Dyddiad:
Dydd Mercher, 6 Rhagfyr
2023
Amser:
09.10 -
12.23
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13815
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) James Evans AS Heledd Fychan AS Laura Anne Jones AS Ken Skates AS Buffy Williams AS |
Tystion: |
Sam Rowlands AS Dr Dave Harvey, Aelodau'r Senedd a'u Staff Cymorth Ceren Roberts, Urdd Gobaith Cymru Graham French, Y Sefydliad Dysgu Awyr Agored Clare Adams, Panel Cynghorwyr Addysg Awyr Agored (OEAP) Mike Rosser, Outdoor Education Advisory Panel Cymru Geraint Williams, Urdd Gobaith Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) Lucy Morgan (Ymchwilydd) Samiwel Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Gwaith yn dilyn yr ymchwiliad i wasanaethau ar gyfer plant sydd wedi bod mewn gofal: archwilio diwygio radical
1.1 Trafododd y Pwyllgor feysydd gwaith yn dilyn yr ymchwiliad i ofal. Cytunodd ar y canlynol:
- cynnal ymchwiliad i “blant ar yr ymylon” gyda’r edefyn cyntaf yn canolbwyntio ar blant a phobl ifanc sydd ar goll a phlant a phobl ifanc y camfanteisir arnynt yn droseddol;
- cynnal sesiwn graffu gyda Gofal Cymdeithasol Cymru;
- a sesiwn graffu flynyddol gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.
1.2 Cytunodd hefyd i wahodd Aelodau’r
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i’r sesiynau craffu gyda
Gofal Cymdeithasol Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru.
2 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
2.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac
Addysg.
3 Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 1
3.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Sam Rowlands AS.
4 Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 2
4.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr yr Urdd, y Panel Cynghorwyr
Addysg Awyr Agored a'r Sefydliad Dysgu Awyr Agored.
5 Papurau i'w nodi
5.1 Cafodd y papurau eu nodi.
5.2 Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg ac Addysg i gael rhagor
o wybodaeth am y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim yn ystod y
gwyliau
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn
6.1 Derbyniwyd y
cynnig.
7 Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - trafod y dystiolaeth
7.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd yn ystod y sesiynau
blaenorol.
8 Gweithredu diwygiadau addysg - trafod y camau nesaf
8.1 Oherwydd cyfyngiadau amser, symudwyd yr eitem hon i agenda'r wythnos nesaf.